|
2012: Ydy'r Plant yn Iawn? Pwysigrwydd y Blynyddoedd Cynnar![]() 2012: Ydy’r Plant yn Iawn? Pwysigrwydd y Blynyddoedd CynnarCynhaliwyd pumed cynhadledd flynyddol Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ar Ddydd Mercher 25 Ionawr 2012 yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd. Canolbwyntiodd y gynhadledd ar bwysigrwydd datblygiad y blynyddoedd cynnar ar iechyd a lles meddwl. Perfformiodd Cwmni Theatr Geese yn y gynhadledd. Mae Cwmni Theatr Geese yn dîm o actorion a gweithwyr grŵp sy’n cyflwyno drama ryngweithiol ac yn cynnal gweithdai’n ymwneud â thema ddewisol. Bwriad eu perfformiadau yw herio, ennyn trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth yn ymwneud â materion penodol. Gwrandawodd y cynadleddwyr hefyd ar gyflwyniadau gan Robin Balbernie (Seicotherapydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed), Huw Maguire (Pennaeth Teuluoedd yn Gyntaf), Huw Lewis AC (y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth) a’r Athro Syr Mansel Aylward CB a roddodd gyflwyniad ar Gomisiwn Bevan. Cynhaliwyd Sesiynau Paralel yn ystod y bore, yn cynnwys: Teuluoedd yn Gyntaf: Alison Prowle, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Teuluoedd yn Gyntaf Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd: Gwneud gwahaniaeth i deuluoedd mewn angen - Cyflwyniad Dechrau’n Deg: Dechrau’n Deg - Cyflwyniad Cordis Bright Ltd: Gwersi wrth ddefnyddio dulliau’n seiliedig ar risg o nodi teuluoedd sydd mewn perygl yn gynnar a’u hymgysylltu. Dogfennau’r gynhadleddAdroddiad y gynhadledd (noder bod hwn ar gael yn Saesneg yn unig) Cyflwyniadau (noder bod y rhain i gyd ar gael yn Saesneg yn unig)Dogfennau ategol:
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 25/05/2012 |
|