YmgynghoriadauBydd Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan yn defnyddio’r dudalen hon i hyrwyddo ymgynghoriadau parhaus sy’n cael effaith ar bolisi a chanllawiau iechyd meddwl yng Nghymru. Os yw eich sefydliad yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd yn ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru yr hoffech ei hyrwyddo yma, anfonwch y manylion dros e-bost at Marie Griffiths. Ymgynhoriadau CyfredolYmgynhoriad i weld beth yw barn pobl am gael Bil Iechyd y Cyhoedd yng NghymruDechrau'r cyfnod ymgynghori: 29/11/2012 Diwedd y cyfnod ymgynghori: 20/02/2013 Mae'r ymgynghoriad hwn yn bodloni un o'r ymrwymiad pwsig yn y Rhaglen Lywodraethu, i:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i wella a diogelu iechyd pobl Cymru. Bu mwy o bwyslais ar faterion iechyd y cyhoedd yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd hyn ei adlewyrchu mewn dogfennau sy'n cynnwys Ein Dyfodol Iach, Law yn Llaw at Iechyd a Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw am fwy o sylw ar wella iechyd pawb, yn ogystal â thrin pobl sy'n sâl. Am fwy o wybodaeth ewch i Wefan Llywodraeth Cymru Ymgynhoriadau DiweddarLaw yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth y Llywodraeth gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng NghymruDechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/05/2012 Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/07/2012 Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yw ein strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru, sy’n cynnwys pobl o bob oed. Ei nod yw mynd i’r afael ag anghenion pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl, gan wella’u lles meddwl hefyd. Bwriad y strategaeth yw gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’u teuluoedd. Anogwn ddefnyddio’r dull ‘adfer ac ail-alluogi’, sy’n anelu at helpu pobl i fyw yn annibynnol a gwireddu eu potensial yn llawn. Am fwy o wybodaeth ewch i Wefan Llywodraeth Cymru. Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 26/09/2011 Diwedd y cyfnod ymgynghori: 16/12/2011 Mae'r ymgynhgoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ar reoliadau a fyddai'n galluogi Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yng Nghymru i ddod yn rhan o drefniadau gweithio rhanbarthol. Cliciwch yma i wybod mwy. Strategaeth Ddrafft Atal HunanladdiadMae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi strategaeth ddrafft atal hunanladdiad ar gyfer Lloegr. Mae’r ddogfen hon yn uno gwybodaeth am grwpiau â risg uwch o gyflawni hunanladdiad, ymyriadau effeithiol a’r adnoddau sydd ar gael ac mae’n rhoi pwyslais newydd ar aelodau’r teulu. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 11 Hydref 2011. Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn llywio’r strategaeth derfynol, ar ddechrau 2012. Ymgynhoriad Lles Meddwl a Phobl HŷnDechrau'r cyfnod ymgynghori: 12/09/2011 Diwedd y cyfnod ymgynhori: 26/09/2011 Mae arolwg NICE yn cael ei gynnal i benderfynu a ddylid diweddaru'r canllaw iechyd cyhoeddus 'Ymyriadau therapi galwedigaethol a gweithgaredd corfforol i hybu lles meddwl pobl hŷn mewn gofal sylfaenol a gofal preswyl'. Cliciwch yma i wybod mwy. Cymunedau yn Gyntaf - Y DyfodolYmgynhoriad yn gofyn am eich barn ar y newidiadau a gynigir i raglen Cymunedau yn Gyntaf. Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 05/07/2011 Diwedd y cyfnod ymgynghori: 26/09/2011 O fis Ebrill 2012, bydd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yn newid i fod yn Raglen sy'n canolbwyntio ar y Gymuned a bydd yn cefnogi agenda Gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 06/12/2012 |
|