Sgipio mordwyaeth
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Beth yw Iechyd Meddwl

Mae’r cwestiwn ‘beth yw iechyd meddwl?’ wedi bod yn destun trafodaethau lu dros flynyddoedd lawer. Hyd yma nid oes cytundeb cyffredinol ar ddiffiniad o ‘iechyd meddwl’. Yng nghyd-destun gwella iechyd meddwl yng Nghymru, mae Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan yn mabwysiadu ymagwedd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Mae hyn yn dechrau gyda dealltwriaeth gyfannol o ‘iechyd’, sydd wedi cael ei ddiffinio gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fel a ganlyn:
 
“Cyflwr o les corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyfan gwbl ac nid absenoldeb afiechyd neu eiddilwch yn unig.”¹
 
Ar sail hyn, gallwn ddeall bod iechyd meddwl
  • yn rhan annatod o iechyd
  • yn fwy nag absenoldeb salwch meddwl
  • yn gysylltiedig ag iechyd corfforol ac ymddygiad yn bennaf.²
Fodd bynnag, mae’r term ‘iechyd meddwl’ ers cryn amser wedi cael ei ddefnyddio fel term sy’n gyfystyr â ‘salwch meddwl’ neu fel ymadrodd teg amdano. Mae’n bwysig herio hyn, fel bod ‘iechyd meddwl a lles’ yn cael ei werthfawrogi fel rhinwedd ddymunol ynddo’i hun, ac fel mwy nag absenoldeb symptomau salwch meddwl.³
 
Hybu iechyd meddwl
 
O’r safbwynt hwn, daw yn glir y dylai ‘hybu iechyd meddwl’ ganolbwyntio ar gamau sy’n gwneud pobl yn ‘iach yn feddyliol’.
 
Mae’r graddau y mae unigolyn neu boblogaeth yn ‘iach yn feddyliol’ yn newid yn barhaus. Bydd yn ymateb i’r amgylchiadau sy’n wynebu unigolyn neu gymuned fel statws cyflogaeth, ansawdd tai, mynediad i hamdden ac ymdeimlad o sicrwydd.
 
Oherwydd ystod eang y ffactorau a all effeithio ar iechyd meddwl, mae gwella amgylchiadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd bywydau pobl yn hanfodol fel nad ydynt yn profi iechyd meddwl gwael o ganlyniad i’w hamodau byw.4 Bydd iechyd meddwl unigolion yn amrywio yn unol â gallu unigolyn i ddelio â’r ffactorau hyn.  Gelwir hyn yn ‘wytnwch’ yn aml, ac mae datblygu gwytnwch unigolyn (er enghraifft, drwy hyrwyddo hunan-barch, neu trwy roi cymorth cymdeithasol) yn rhan allweddol o hyrwyddo iechyd meddwl. 
 
Fodd bynnag, dadleuwyd bod ‘ymyriad un i un yn anobeithiol … mae’n ddyngarol, yn garedig, ond yn anobeithiol … oherwydd y bwlch na ellir ei bontio rhwng y niferoedd mawr sydd mewn angen a niferoedd bach y bobl sy’n helpu’.5 Felly mae angen dull ‘ecolegol’ er mwyn hybu iechyd meddwl sy’n gweld ‘pobl fel personau sy’n datblygu, sydd yn byw mewn cyd-destun o fewn amgylchedd uniongyrchol ac ehangach’6, ac yn mynd i’r afael â’r ffactorau ehangach hyn sy’n dylanwadu ar iechyd meddwl.
 
Mae angen i gamau gweithredu ar gyfer hybu iechyd meddwl fynd i’r afael â materion o fewn unigolion (dylanwadu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiad) ac o fewn yr ystod eang o amodau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol lle mae’r agweddau a’r ymddygiad hyn yn digwydd.
 
¹Rhagymadrodd i Gyfansoddiad Sefydliad Iechyd y Byd fel y’i mabwysiadwyd gan y Gynhadledd Iechyd Ryngwladol, Efrog Newydd, 19 Mehefin - 22 Gorffennaf 1946; llofnodwyd ar 22 Gorffennaf 1946 gan gynrychiolwyr 61 o Wladwriaethau (Cofnodion Swyddogol Sefydliad Iechyd y Byd, rhif. 2, t. 100) ac a ddaeth i rym ar 7 Ebrill 1948.
²Sefydliad Iechyd y Byd (2005), Promoting Mental Health: Concepts, Emerging Evidence, Practice, Adran Iechyd Meddwl a Cham-drin Sylweddau WHO mewn Cydweithrediad â’r Victorian Health Promotion Foundation a Phrifysgol Melbourne
³Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006), Cynllun Gweithredu Hybu Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru: Dogfen Ymgynghorol, Caerdydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru
4 Wilkinson R (1996), Unhealthy Societies: Afflictions of Inequality. Llundain, Routledge
5 Albee G W (1992), Prif araith yn DR Trent a C Reed (gol), Promotion of Mental Health, Cyfrol 2, Aldershot, Avebury
6 Dodd C & Leob D (1994), Mental Health: A Way of Working, yn  DR Trent a C Reed (gol), Promotion of Mental Health, Cyfrol 2, Aldershot, Avebury


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 26/03/2008