|
2008 - Addasu i Ddigwyddiadau Bywyd a’u Heffaith ar Iechyd MeddwlYr Ail Gynhadledd FlynyddolSTADIUM Y MILENIWM Dydd Mercher, 22 Hydref 2008 Cynhaliwyd ail gynhadledd flynyddol Rhwydwaith Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ar 22 Hydref 2008 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn llawn a chafodd groeso gwresog. Enw’r gynhadledd oedd, ‘Addasu i Ddigwyddiadau Bywyd a’u Heffaith ar Iechyd Meddwl’, ac ymchwiliodd i’r effaith y gall amgylchiadau bywyd ei chael ar iechyd meddwl unigolion, teuluoedd a chymunedau. Cafodd y diwrnod ei gadeirio gan yr Athro Mansel Aylward CB a chafodd y brif araith ei thraddodi gan Dr Lynne Friedli, Arbenigwr Hybu Iechyd Meddwl. Mae Dr Friedli yn gweithio ar draws Ewrop i gefnogi datblygiad iechyd meddwl y cyhoedd, yn ogystal â darparu hyfforddiant a chyngor ar bolisïau o fewn y DU. Mae’n ymgynghorydd iechyd meddwl y cyhoedd i’r Sefydliad Iechyd Meddwl a Chanolfan Datblygu Iechyd Meddwl yr Alban (SDC). Roedd y gynhadledd yn cynnwys pum gweithdy yn canolbwyntio ar: Brofedigaeth a Cholled, Plant a Phobl Ifanc, Cyflogaeth, Problemau Iechyd a Gofal Iechyd a Phobl Hŷn. Roedd pob un yn cynnwys cyflwyniad byr gan arbenigwyr yn y maes perthnasol a’r cyfle i gael trafodaeth fanwl a dadl. I weld copi o’r cyflwyniadau PowerPoint cliciwch ar yr enwau isod. Darperir copïau o gyflwyniadau yn yr iaith y cawsant eu paratoi’n wreiddiol gan y siaradwyr. Areithiau’r boreYr Athro Mansel Aylward CB (Cadeirydd) – Araith Agoriadol Dr Lynne Friedli – Prif Araith – Addasu i Amgylchiadau Bywyd: iechyd meddwl, hydwythdedd ac anghydraddoldebau Huw Lewis AC Yr Athro Andy Smith – Digwyddiadau sy’n peri straen Gweithdai’r prynhawnProfedigaeth a Cholled Richard Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Galar Cruse Cymru Greg Thomas, Gofal Cymru Plant a Phobl Ifanc David Messum, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Lynne Walsh, Darlithydd, Canolfan ar gyfer Gofal Iechyd Sylfaenol, Iechyd y Cyhoedd a Phobl Hŷn Cyflogaeth Ceri Harris, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Problemau Iechyd a Gofal Iechyd Carol Young Cydgysylltydd Rhaglen Cleifion Arbenigol, Byrddau Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro a Jason Jones, Cyfranogwr yng Nghwrs y Rhaglen Cleifion Arbenigol Sarah Waller, rhaglen Gwella’r Amgylchedd Iachaol (Ewch i www.kingsfund.org.uk i gael gwybodaeth am Wella'r Amgylchedd Iachaol ac i weld enghreifftiau o gynlluniau a gwblhawyd.) Pobl Hŷn Linda Davies, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phil Thomas, Age Concern Cymru
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 25/10/2011 |
|